#

Y Pwyllgor Deisebau | 25 Medi 2018
 Petitions Committee | 25 September 2018
 
 
 ,Plant a anwyd yn ystod yr haf 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-832

Teitl y ddeiseb: Diwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion o ran Plant a Anwyd yr Haf

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried diwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion lle y mae'n ymwneud â derbyn plant y tu allan i'r grŵp oedran arferol, mewn perthynas â phlant a anwyd yn ystod yr haf (1 Ebrill – 31 Awst).
Oherwydd amseriad cyfnodau dechrau mewn ysgolion, mae plant a anwyd yn ystod yr haf o dan anfantais sylweddol o gymharu â'u cyfoedion. Efallai y byddant yn dioddef effeithiau emosiynol ac addysgol niweidiol wrth iddynt ddechrau eu haddysg ffurfiol lawer yn iau. Gyda hynny mewn golwg, efallai y bydd rhieni yn dewis gohirio pryd y bydd plant a anwyd yn ystod yr haf yn dechrau yn yr ysgol hyd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol gorfodol, yn unol â'u hawliau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf yn canfod bod eu plant wedyn yn cael eu rhoi mewn dosbarth ym Mlwyddyn 1 yn syth, gan golli'r flwyddyn Derbyn hanfodol, sef y flwyddyn bwysicaf mewn addysg yn ôl gwaith ymchwil.

Mae'n well gan y rhan fwyaf o rieni i'w plant fynd i'r flwyddyn Derbyn pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol yn hytrach na Blwyddyn 1. O dan y Cod Derbyn i Ysgolion, mae hyn yn bosibl mewn theori. Mewn egwyddor, mae'r Cod yn rhoi'r gallu i rieni ofyn i'w plant a anwyd yn ystod yr haf gael eu haddysgu y tu allan i'w grŵp oedran arferol. Yn ymarferol, mae geiriad y Cod wedi achosi llawer o broblemau: mae astudiaethau achos wedi dangos nad yw Awdurdodau Addysg Lleol yn gweithredu'r ddarpariaeth yn gyson ac mai prin y caiff ceisiadau eu derbyn.

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y diwygiadau a ganlyn: 

(1) Fel yr opsiwn cyntaf, dylid cymeradwyo ceisiadau i ohirio dyddiad dechrau plant sydd â phen-blwyddi yn ystod misoedd yr haf yn awtomatig (fel sy'n digwydd yn yr Alban); 

(2) Fel arall, dylid diwygio geiriad y ddarpariaeth bresennol i gryfhau hawliau rhieni i ddewis pryd y bydd eu plant yn dechrau mewn dosbarth Derbyn, gan bwysleisio hefyd y dylai Awdurdodau Addysg Lleol ystyried ceisiadau yn llawn a rhoi arweiniad Llywodraethol i'r perwyl hwn; 

(3) Yn y naill achos neu'r llall, dylid sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'w grŵp oedran yn aros gyda'u grŵp newydd drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol.

Y cefndir

Nid oes rhaid i blentyn fynd i'r ysgol tan ddechrau'r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bum mlwydd oed.  O dan Adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 a Gorchymyn Addysg (Dechrau Oedran Ysgol Gorfodol) 1998, mae plentyn yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol yn ystod y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bum mlwydd oed. Nodir dyddiadau'r tymhorau fel 31 Awst, 31 Rhagfyr ac 31 Mawrth.

Bydd gan bob awdurdod lleol ei bolisi ei hun a fydd yn rhan o'i drefniadau derbyn ac yn unol â Chod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru (Mehefin 2013).

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Gohirio dechrau yn yr ysgol gynradd

Mae Cod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru yn cynnwys canllawiau ymarferol ac yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn, ynghylch ymgymryd â'u dyletswyddau o ran derbyn. Mae'r Cod yn nodi bod 'rhaid i’r holl gyrff neu unigolion perthnasol “weithredu’n unol” â’r Cod'. O ran gohirio dechrau mewn ysgolion cynradd, mae'r Cod yn nodi'r canlynol:

Gohirio mynediad i ysgolion cynradd

2.61 Yn ôl y gyfraith, nid yw’n ofynnol i blentyn ddechrau yn yr ysgol tan ddechrau’r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bump oed. Lle bydd yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol gynradd yn cynnig lleoedd mewn dosbarthiadau derbyn i rieni cyn i'w plant gyrraedd yr oedran ysgol gorfodol, rhaid iddynt roi'r dewis i'r rhieni ohirio derbyn eu plentyn tan yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn ysgol. Effaith hynny yw bod y lle’n cael ei gadw i’r plentyn hwnnw ac nad yw’r lle ar gael i’w gynnig i blentyn arall. Fodd bynnag, ni fyddai’r rhieni'n cael gohirio’r derbyn y tu hwnt i ddechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bump oed, na'r tu hwnt i'r flwyddyn ysgol y derbyniwyd y cais gwreiddiol ar ei chyfer. Rhaid gwneud hyn yn glir yn nhrefniadau derbyn yr ysgol.

Mae Cod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer derbyn plant y tu allan i'w grŵp oedran arferol mewn rhai amgylchiadau, er nad yw hyn yn sôn yn benodol am ddisgyblion a anwyd yn ystod yr haf. Mae'r Cod yn nodi'r canlynol:

Derbyn y tu allan i’r grŵp oedran arferol

3.30 Er y caiff y rhan fwyaf o blant eu derbyn i ysgol o fewn eu grŵp oedran cronolegol eu hunain, o bryd i’w gilydd, bydd rhieni’n ceisio lle y tu allan i’w grŵp oedran arferol ar gyfer plant dawnus a thalentog, neu’r rheini sydd wedi cael problemau neu wedi colli rhan o’r flwyddyn, a hynny'n aml oherwydd afiechyd. Er na fyddai gan amlaf yn briodol i blentyn gael ei roi mewn grŵp blwyddyn nad yw’n cyd-fynd â’u hoedran cronolegol, dylai awdurdodau derbyn ystyried y ceisiadau hyn yn ofalus a phenderfynu ar sail amgylchiadau pob achos a drwy ymgynghori â’r rhieni ac â’r ysgol, ac yn benodol, beth fyddai fwyaf buddiol i'r plentyn. Dylid ystyried adroddiad y Seicolegydd Addysg hefyd pan fydd ar gael, a rhesymau amlwg dros wneud penderfyniad o'r fath. [fy mhwyslais i]

3.31 Os penderfynir bod sail dros ystyried cais 'y tu allan i'r flwyddyn', mae gan rieni y gwrthodwyd lle i'w plant mewn ysgol hawl statudol i apelio. Fodd bynnag, nid oes hawl apelio os cynigiwyd lle ond nad yw yn y grŵp blwyddyn dymunol.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 28 Mehefin 2018, dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y canlynol o ran plant a anwyd yn ystod yr haf a'r Cod Derbyn i Ysgolion:

My expectation, Chair, would be that local authorities should follow the guidance that already exists in the schools admissions code. So, the current status quo, the current position would be that the code is clear that admissions authorities should consider requests for admissions outside the normal age group very carefully, and make a decision on individual children's needs and what is best for those children. So, the code already allows for flexibility in this regard, and our expectation would be that local authorities would take what's written in the code seriously, and look to apply it consistently and fairly.

With regard to the evidence around changes to admissions, there's not a huge amount of evidence, I should say, that delayed admissions improve outcomes for summer-born children. I think sometimes we're conflating summer-born children with perhaps a child that has additional learning needs or other issues. So, we need to understand and unpick some of the anxieties that parents have, and clearly those are real concerns, those are real worries, and it's highly emotive, but sometimes I think we need to be clear about whether we're talking about worries about inadequate support for additional learning needs as opposed to necessarily schools admissions. However, having said all of that, it is our intention to review the admissions code in the autumn term.

Yn yr un cyfarfod, cafodd y Pwyllgor bapur i'w nodi ar ran y Grŵp Derbyniadau Hyblyg, Cymru. Mae hyn yn nodi barn y grŵp am y materion sy'n ymwneud â derbyniadau i ysgolion a phlant a anwyd yn ystod yr haf.

Y sefyllfa yn Lloegr:

Ym mis Rhagfyr 2014, diwygiodd yr Adran Addysg (Lloegr) ei School Admissions Code fel bod yn rhaid i bob penderfyniad gael ei wneud er budd pennaf y plentyn ac, wrth wneud hynny, dylai awdurdodau derbyn ystyried barn y rhieni a gwybodaeth am ddatblygiad y plentyn.   Mae'r Cod yn nodi'r canlynol:

2.17 Parents may seek a place for their child outside of their normal age group, for example, if the child is gifted and talented or has experienced problems such as ill health. In addition, the parents of a summer born child may choose not to send that child to school until the September following their fifth birthday and may request that they are admitted out of their normal age group – to reception rather than year 1. Admission authorities must make clear in their admission arrangements the process for requesting admission out of the normal age group.

2.17A Admission authorities must make decisions on the basis of the circumstances of each case and in the best interests of the child concerned. This will include taking account of the parent’s views; information about the child’s academic, social and emotional development; where relevant, their medical history and the views of a medical professional; whether they have previously been educated out of their normal age group; and whether they may naturally have fallen into a lower age group if it were not for being born prematurely. They must also take into account the views of the head teacher of the school concerned. When informing a parent of their decision on the year group the child should be admitted to, the admission authority must set out clearly the reasons for their decision.

Mae'r Adran Addysg wedi cyhoeddi cyngor anstatudol ar dderbyn plant a anwyd yn ystod yr haf (Saesneg yn unig) (Rhagfyr 2014).  Y prif bwyntiau yw:

§  Mae'n ofynnol i awdurdodau derbyn ysgolion ddarparu ar gyfer derbyn yr holl blant ym mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair blwydd oed, ond mae hyblygrwydd i blant nad yw eu rhieni'n teimlo eu bod yn barod i ddechrau'r ysgol cyn iddynt gyrraedd oedran ysgol gorfodol.

§  Os yw rhiant yn gofyn i blentyn gael ei dderbyn y tu allan i'w grŵp oedran arferol, awdurdod derbyn yr ysgol sy'n gyfrifol am benderfynnu i ba grŵp blwyddyn y dylai plentyn gael ei dderbyn. Mae'n ofynnol iddo wneud penderfyniad ar sail amgylchiadau'r achos ac er budd pennaf y plentyn dan sylw.

§  Nid oes rhwystr statudol i dderbyn plant y tu allan i'w grŵp oedran arferol, ond nid oes gan rieni'r hawl i fynnu i'w plentyn gael ei dderbyn i grŵp oedran penodol.

Mae'r Adran Addysg wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil, sef Delayed school admissions for summer born pupils (Mai 2018) sy'n cynnwys tystiolaeth ar bolisïau derbyn a gasglwyd gan awdurdodau lleol yn Lloegr.  Ymysg ei ganfyddiadau oedd:

§    Bu cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am ohirio dechrau yn yr ysgol dros y ddwy flynedd pan gynhaliwyd yr arolwg o'r awdurdodau lleol (2015-2017).

§    Yn gyffredinol, ymddengys y ceir llai o geisiadau mewn ardaloedd awdurdodau lleol lle mai'r polisi yw derbyn ceisiadau dim ond lle mae tystiolaeth gref yn eu hategu.

§    Mae dadansoddiad drwy astudio'r unig ddata sydd ar gael hyd yn hyn ar y disgyblion hyn (data ffoneg) yn canfod cynnydd mewn sgoriau ffoneg o 0.87 marc ar gyfer plant a anwyd yn ystod yr haf a wnaeth ohirio dechrau yn yr ysgol rhwng 2014/15 a 2015/16, ond nid yw hynny'n welliant arwyddocaol yn ystadegol. Mae hyn yn awgrymu nad oes effaith arwyddocaol o ohirio derbyn i'r dosbarth Derbyn ar berfformiad disgyblion yn yr Archwiliad Sgrinio Ffoneg.

Ar 8 Medi 2015, cyhoeddodd Nick Gibb, Gweinidog Ysgolion yn Lloegr, fwriad Llywodraeth y DU i roi'r hawl i blant a anwyd yn ystod yr haf ddechrau yn y dosbarth Derbyn yn 5 mlwydd oed. Ysgrifennodd lythyr agored i annog ysgolion ac awdurdodau lleol i gymryd camau ar unwaith, cyn y newidiadau arfaethedig.  

Yn ateb i Gwestiwn Seneddol Ysgrifenedig ar 4 Mehefin 2018, dywedodd Nick Gibb:

The Department remains committed to amending the School Admissions Code to ensure summer born children can be admitted to reception at age five where this is what their parents want.

Y sefyllfa yn yr Alban

Mae'r system ysgolion yn yr Alban yn gweithredu gydag amserlen wahanol i un Cymru, felly nid plant a anwyd yn ystod yr haf yw'r rhai yr effeithir arnynt. Fodd bynnag, mae darpariaethau tebyg mewn grym ar gyfer gohirio dechrau yn yr ysgol i'r plant a fyddai'n iau na'u cyfoedion grŵp blwyddyn ysgol.

Mae'r flwyddyn ysgol yn dechrau yng nghanol mis Awst. Mae pob grŵp blwyddyn ysgol yn cynnwys plant a anwyd rhwng dechrau mis Mawrth mewn un flwyddyn a diwedd mis Chwefror y flwyddyn ganlynol. Mae'r plant a anwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst yn dechrau'r ysgol ym mis Awst neu ar ôl eu pen-blwydd yn bum mlwydd oed. Mae'r rhai a anwyd rhwng mis Medi a mis Chwefror yn dechrau'r ysgol ym mis Awst cyn eu pen-blwydd yn bum mlwydd oed. Fel y cyfryw, mae plant yn yr Alban fel arfer yn dechrau'r ysgol rhwng 4.5 a 5.5 mlwydd oed.

Fodd bynnag, caiff rhieni plant a anwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr ofyn am ohirio pryd y mae eu plentyn yn dechrau yn yr ysgol i'r mis Awst dilynol. Nid yw'r gohiriadau hyn yn awtomatig ac maent yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan yr awdurdod addysg lleol. Hefyd, caiff rhieni plant a anwyd ym mis Ionawr a mis Chwefror ddewis gohirio pryd y mae eu plentyn yn dechrau yn yr ysgol; caiff y ceisiadau hyn eu cymeradwyo'n awtomatig. Mae plant sydd â phen-blwydd ym mis Ionawr a mis Chwefror ac y maent yn dechrau yn yr ysgol yn hwyrach yn gymwys i gael blwyddyn arall o addysg cyn-ysgol a ariennir, ond nid yw plant sydd â phen-blwydd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr sy'n dechrau yn yr ysgol yn hwyrach yn gymwys i gael hyn. Bydd plant sy'n dechrau yn yr ysgol yn hwyrach yn tueddu i fod rhwng 5.5 a 6 oed pan maent yn dechrau yn yr ysgol.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.